1 Dwynwen deigr danian degwch
2 Da y gwyr o gor fflamgwyr fflwch
3 Dy ddelw aur diddoluriaw
4 Digion drvain ddynion draw
5 Dyn a wilio gloywdro glân
6 Yn dy gor indeg eirian
7 Nid oes glefyd na bryd brwyn
8 A el ynddo o Landdwyn
9 Dy laesblaid yw dy lwysblwyf
10 Dolvrus ofalvs wyf
11 Y fron hon o hoed gordderch
12 Y sydd yn vnchwydd o serch
13 hirwayw o sail gofailiaint
14 herwydd y gwn hwn yw r haint
15 Oni chaf o byddaf byw
16 forfydd llyna oferfyw
17 [95r] Gwna fi yn iach wiw iach wawd
18 Om anwychder a'm nychdawd
19 {Kymmysg lateirwydd fl}wyddyn
20 A rhadau Duw rhyd y dyn
21 Nid rhaid ddelw euraid ddilyth
22 it ofn pechawd fethlgnawd fyth
23 Nid {adwna da i} dangnef
24 {dvw a wnaeth nid ai} o nef
25 nith wyl {mvrsen} yleni
26 {yn hvsting yn ing} xa ni
27 ni rydd eiddig ddig ddygnbwyll
28 war {ffon i ti wyry i} ffwyll
29 [ ] thybir
30 [ ] gymlegyd hir
31 [ ] dir gynired
32 [ ] gro geni o gred
33 [ ] ith ommeddawdd hawdd hedd
34 [ ] aith aml dyn nith ommedd
35 Diammav weddiav waith
36 Duw a'th eilw dv ei thalaith
37 [95v] Delit Duw dy lettywr
38 Del o gof dwylaw y gwr
39 Traws oedd i'r neb a'i treisiai
40 Tra ddel i'm ol trwy ddail Mai
41 Dwynwen pe y parvd vnwaith
42 Dan ddydd Mai a hirddydd maith
43 Dawn y bardd da wen y bych
44 Dwynwen nid oeddid anwych
45 Dangos o'th radau dawngoeth
46 Nad wyd fvrsen ddwynwen ddoeth
47 Er a wnaethost yn ddawnbwys
48 O benyd y byd ai bwys
49 Er y crefydd ffydd ffyddryw
50 a wnaethost tra fuost fyw
51 Er yr eirian leianaeth
52 A gwyrfdawd y coethgnawd caeth
53 Er enaid os rhaid y rhawg
54 Brychan yrth breichiau nerthawg
55 Eiriol er dy grefol gred
56 Yr Em wyry roi ymwared
Da' ap Glm'
Darlleniadau Amrywiol
Rhai darlleniadau wedi eu hychwanegu o ffynhonnell arall -
llau 19, 23, 24, 25, 26, 28